Daeth
cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o'r cyfarfod
cyntaf o'r Mudiad
Cymreig,
grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru - gan synnu'r gŵr
gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes
gwleidyddiaeth.
Chwith i'r Dde: Cadeirydd o Gangen Plaid Cymru Penarth, Adrian Roper, Alun Ffred Jones AC, Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, a Chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams |
Fe
gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarth ar
Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd
a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd
lawer.
Yn ystod y digwyddiad
y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd
cyfarfodydd y grŵp a'u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda
chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid
Cymru'r flwyddyn ddilynol.
Eglurodd sut y daeth y
polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn
ei blynyddoedd cyntaf.
Y gynulleidfa'n ymgynull wrth edrych ymlaen at sgwrs yr Athro Richard Wyn Jones |
Yn
ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol
cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas
Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a'i wraig
Elizabeth.
Trefnwyd
y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen
Penarth o'r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.
Clywodd
ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i'r Athro Jones,
aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes
gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.
Cadeirydd
y cyfarfod oedd Alun Ffred Jones, sy'n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr
i'r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â'r grŵp ar ôl ei gyfarfod
cyntaf.
Rhoddodd
Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o
ddiolch i'r siaradwyr a'r trefnwyr.
Ymgeisydd San Steffan Penarth, Ben Foday (de) ac ymgeisydd Cynulliad Cenedlaethol Dr Dafydd Trystan Davies (ail ar y chwith), gydag Alun Ffred Jones AC a'r Athro Richard Wyn Jones |
Ymhlith
y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y
Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan
Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru'r llynedd.
Dafydd Williams gydag arddangosfa 'Merched y Blaid' |
No comments:
Post a Comment