6.7.13

£38 MILIWN ALLAN O ECONOMI’R FRO

Coalition welfare reforms will take £38 million out of Vale economy


Mae ymgyrchwr lleol Plaid Cymru, Osian Lewis, wedi awgrymu y bydd pobl y Fro yn dioddef yn enbyd ar ôl y datgeliad y bydd y Fro yn colli £38 miliwn mewn blwyddyn o ganlyniad i newidiadau nawdd cymdeithasol.

Iain Duncan-Smith


Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, amcangyfrifwyd y bydd Cymru gyfan wedi colli dros biliwn o bunnoedd o ganlyniad i’r gwahanol newidiaduau i’r system lles.

Dywed yr adroddiad, gan y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, fod hyn yn cyfateb i golli £473 am bob oedolyn mewn oedran gwaith yn y Fro.

Dywedodd Osian Lewis: “Mae dyfnder a graddfa enfawr y toriadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn erchyll. Mae’n anfaddeuol cymryd mwy na biliwn o bunnoedd o bocedi’r sawl all ei fforddio leiaf yng Nghymru. Mae llawer o deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn ymdrechu i gadw eu pennau uwchlaw’r don yn awr yn cael eu taflu i ddyfnder tlodi ac mae’n bwysig nodi hefyd y bydd y newidiadau hyn mewn gwirionedd yn dwyn ymaith y cymhelliant i weithio oddi wrth fwy o bobl nac y byddant yn helpu.”

No comments:

Post a Comment