Coalition welfare reforms will take £38 million out of Vale economy
Mae ymgyrchwr
lleol Plaid Cymru, Osian Lewis, wedi awgrymu y bydd pobl y Fro yn dioddef yn
enbyd ar ôl y datgeliad y bydd y Fro yn colli £38 miliwn mewn blwyddyn o
ganlyniad i newidiadau nawdd cymdeithasol.
Iain Duncan-Smith |
Erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol nesaf, amcangyfrifwyd y bydd Cymru gyfan wedi colli dros
biliwn o bunnoedd o ganlyniad i’r gwahanol newidiaduau i’r system lles.
Dywed yr
adroddiad, gan y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol ym
Mhrifysgol Sheffield Hallam, fod hyn yn cyfateb i golli £473 am bob oedolyn
mewn oedran gwaith yn y Fro.