Showing posts with label hanes. Show all posts
Showing posts with label hanes. Show all posts

18.1.14

DATHLU RHAN PENARTH WRTH FFURFIO PLAID CYMRU

Daeth cant o bobl i gyfarfod arbennig i gofio 90ain pen-blwydd o'r cyfarfod cyntaf o'r Mudiad Cymreig, grŵp a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru - gan synnu'r gŵr gwadd, yr Athro Richard Wyn Jones, un o brif ysgolheigion ym maes gwleidyddiaeth.

Chwith i'r Dde: Cadeirydd o Gangen Plaid Cymru Penarth, Adrian Roper, Alun Ffred Jones AC, Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, a Chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams
Fe gynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol, cudd yn Bedwas Place, Penarth ar Ionawr 7, 1924, ac ymhlith y rhai fu yno bryd hynny oedd y darlithydd a dramodydd, Saunders Lewis, a drigai ym Mhenarth dros flynyddoedd lawer.

Yn ystod y digwyddiad y mis yma, siaradodd yr Athro Richard Wyn Jones am bwysigrwydd cyfarfodydd y grŵp a'u dylanwad wrth ddatblygu cysylltiadau gyda chenedlaetholwyr yng ngogledd Cymru a sefydliad swyddogol Plaid Cymru'r flwyddyn ddilynol.

Eglurodd sut y daeth y polisïau a luniwyd gan y grŵp yn bolisïau i Blaid Cymru ei hun yn ei blynyddoedd cyntaf.

Y gynulleidfa'n ymgynull wrth edrych ymlaen at sgwrs yr Athro Richard Wyn Jones

Yn ogystal â Saunders Lewis, yn bresennol yn y cyfarfod hanesyddol cyntaf oedd yr hanesydd, Ambrose Bebb, a pherchnogion y tŷ yn Bedwas Place, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig, G. J. Williams a'i wraig Elizabeth.

Trefnwyd y dathliad diweddar gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o'r Blaid, ac ymhlith y cant a ddaeth oedd criw teledu.

Clywodd ystafell dan ei sang yn y Windsor Arms groeso i'r Athro Jones, aelodau a chefnogwyr y Blaid a thrigolion lleol â diddordeb yn hanes gwleidyddiaeth ym Mhenarth gan Gadeirydd y Gangen leol Adrian Roper.

Cadeirydd y cyfarfod oedd Alun Ffred Jones, sy'n Aelod Cynulliad ac yn ŵyr i'r Parchedig Ffred Jones, a ymunodd â'r grŵp ar ôl ei gyfarfod cyntaf.

Rhoddodd Cadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, Dafydd Williams, bleidlais o ddiolch i'r siaradwyr a'r trefnwyr.

Ymgeisydd San Steffan Penarth, Ben Foday (de) ac ymgeisydd Cynulliad Cenedlaethol Dr Dafydd Trystan Davies (ail ar y chwith), gydag Alun Ffred Jones AC a'r Athro Richard Wyn Jones

Ymhlith y gynulleidfa yn y dathliad oedd ymgeiswyr San Steffan a Chynulliad y Blaid ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Ben Foday a Dr Dafydd Trystan Davies, a etholwyd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru'r llynedd.

Dafydd Williams gydag arddangosfa 'Merched y Blaid'

5.12.13

RÔL GUDD PENARTH YN HANES CYMRU

Bydd noson arbennig yn nodi 90ain pen-blwydd cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, a arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru'r flwyddyn ganlynol, i'w gynnal ym Mhenarth ym Mis Ionawr.

Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol yn 11 Bedwas Place, Penarth ar noson Ionawr 7fed, 1924, ac fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty'r Windsor Arms Nos Fawrth, Ionawr 7 (am 7.30pm).

Trefnir ar y cyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth o'r Blaid. Y gŵr gwadd fydd yr Athro Richard Wyn Jones, sy'n hanesydd, sylwebydd gwleidyddol a darlledwr o fri.

Yn y cyfarfod yn 1924, dechreuodd grŵp bychan o genedlaetholwyr dan arweiniad y darlithydd a dramodydd Saunders Lewis lunio polisïau ac amcanion oedd â'r nod o achub Cymru rhag difodiant diwylliannol a gwleidyddol.

Yn ogystal â Saunders Lewis, mynychwyd y cyfarfod cyntaf gan yr hanesydd Ambrose Bebb a pherchnogion y tŷ, yr hanesydd ac ysgolhaig Cymreig G. J. Williams a'i wraig, Elizabeth.

Mewn cyfarfod diweddarach ar 5 Chwefror, ymunodd D.J. Williams a Ben Bowen Thomas ac ym Mis Mawrth daeth gweinidog o Dreorci, y Parchedig Ffred Jones, tad-cu canwr gwerin a chyn-Lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan a'r Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones, fydd yn cadeirio'r cyfarfod pen-blwydd.

Bu'r grŵp yn cwrdd yn gyfrinachol drwy gydol 1924 tra fo grŵp arall o genedlaetholwyr yn cwrdd yng Ngwynedd tua'r un adeg.

Saunders Lewis
Yn gynnar yn 1925, cysylltodd arweinydd y grŵp gogleddol, H.R. Jones, â Saunders Lewis i'w wahodd i helpu wrth greu plaid wleidyddol newydd. Fe gadwodd y ddwy garfan mewn cysylltiad agos ac ar Awst 5, 1925, teithiodd Mr Lewis a'r Parch Ffred Jones i Bwllheli i ymuno ag H.R. Jones a thri arall - y Parchedig Lewis Valentine, y gwyddonydd Moses Griffiths a'r saer D.E. Williams - mewn cyfarfod i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yn fudiad cenedlaethol i Gymru.

Cafodd rhai o'r polisïau a luniwyd ym Mhenarth gan y Mudiad Cymreig eu rhoi o'r neilltu ers llawer dydd, ond daeth ei weledigaeth o blaid annibynnol i Gymru ei gwireddu, gyda'r bwriad penodol, yng ngeiriau D.J. Williams, “o roi i Gymru, yng nghyflawnder amser, hunanlywodraeth a'i senedd ei hun, ynghyd â holl freintiau cenedl rydd.”

Mae modd olrhain dadeni Cymru yn genedl hunanlywodraethol i raddau helaeth yn ôl i'r trafodaethau cudd hynny yn Bedwas Place yn 1924.

Gobeithir y bydd y rhai yn y digwyddiad coffaol yn cynnwys disgynyddion prif aelodau'r Mudiad Cymreig yn ogystal â chynrychiolwyr o Gangen Pwllheli o Blaid Cymru.

Ceir tocynnau (£10 y pen i gynnwys bwffe) oddi wrth Rowland Davies o Gangen Penarth, ardbear@btinternet.com neu (029) 20702603 a 07769 195025, neu oddi wrth Alan Jobbins o Gymdeithas Hanes Plaid Cymru, asjobbins@btinternet.com neu (029) 20623275 a 07790 868686.